Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Siambr Hywel - Tŷ Hywel

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 21 Hydref 2025

Amser y cyfarfod: 13.30
 


306 (v3)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI3>

<AI4>

3       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

(45 munud)

</AI4>

<AI5>

4       Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Y Comisiwn Dwr Annibynnol - Y Camau Nesaf

(45 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Cefnogi Cymunedau Cymru - Tynnwyd yn ôl

(0 munud)

</AI6>

<AI7>

6       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Tuag at GIG Mwy Tryloyw

(30 munud)

</AI7>

<AI8>

7       Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025

(15 munud)

NDM9015 Jane Hutt AS (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2025.

Dogfennau ategol

Memorandwm esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI8>

<AI9>

8       Rheoliadau Safonau Marchnata Cig Dofednod Maes (Diwygio) (Cymru) 2025

(5 munud)

NDM9017  Jane Hutt AS (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau Marchnata Cig Dofednod Maes (Diwygio) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Medi 2025.

Dogfennau ategol

Memorandwm esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI9>

<AI10>

9       Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025

(5 munud)

NDM9016 Jane Hutt AS (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2025.

Dogfennau ategol

Memorandwm esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI10>

<AI11>

10    Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

(15 munud)

NDM9014 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau ym Mil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo i'r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Chwefror 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU (Saesneg yn unig):
https://bills.parliament.uk/publications/60806/documents/6505

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

</AI11>

<AI12>

11    Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill)

(15 munud)

NDM9013 Jane Hutt AS (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Chwefror 2025 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mawrth 20257 Mai 2025 a 10 Hydref 2025, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU (Saesneg yn unig):

Public Authorities (Fraud, Error and Recovery) Bill

Dogfennau ategol

Adroddiadau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar femoranda rhifau 1 a 2 a rhif 3.

Ymateb y Llywodraeth i adroddiadau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a‘r Cyfansoddiad ar femoranda rhifau 1 a 2 a rhif 3.

</AI12>

<AI13>

12    Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2024-25

(60 munud)

NDM9012 Jane Hutt AS (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2024-25 Comisiynydd Plant Cymru. 

Anfonwyd copi o'r adroddiad drwy e-bost at Aelodau'r Senedd ar 14 Hydref 2025.

Dogfennau ategol

Comisiynydd Plant Cymru - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024-25

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1: Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi galwad y Comisiynydd am gymorth ariannol uniongyrchol i blant mewn tlodi dwys, gan gynnwys taliad plant i Gymru, ar sail model yr Alban.

Yn croesawu ymrwymiad Plaid Cymru i gyflwyno taliad o’r fath.

Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi pleidleisio yn erbyn cynigion Plaid Cymru i’w gyflwyno.

</AI13>

<AI14>

13    Cyfnod pleidleisio

 

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 22 Hydref 2025

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>